Hunangofiant Bachgen Drwg

HUNANGOFIANT BACHGEN DRWG - NICHOLAS DANIELS

DARLUNIAU / ILLUSTRATIONS - NOEL FORD

Does dim amheuaeth am y peth bellach: mae pawb – yr athrawon, Mam, Dad, Twm y dyn llaeth a Mrs Huws drws nesaf – wedi penderfynu fy mod i’n ‘fachgen drwg iawn’. Mae’n rhaid eu bod nhw wedi cael rhyw fath o gyfarfod cyfrinachol, lle bu pawb yn fy ngalw i wrth bob enw dan haul, achos mae eu cwynion i gyd yn hynod o debyg. Dwi ddim am eu rhestru nhw (maen nhw’n hynod o ddiflas), ond mae’n saff i ddweud mae’n rhaid bod bywydau sad tu hwnt ganddyn nhw i gyd i fod â chymaint o obsesiwn dros helyntion bachgen deg oed.


Wedi dweud hynny, dwi ddim, credwch neu beidio, yn anghytuno â nhw. O nac ydw! Dwi’n gwybod fy mod i’n ddihiryn heb ei ail, yn rîal poen yn y pen-ôl! Ond dydyn nhw ddim yn sylweddoli pa mor anodd yw hi i fod yn fachgen da. Driais i fod yn dda unwaith . . . a dyna oedd pum munud anoddaf fy mywyd. Eto i gyd, teimlaf ei bod yn bwysig nodi o’r cychwyn cyntaf nad fy mai yw e fy mod i’n fachgen drwg. Dydw i ddim yn mynd i chwilio am drafferth, wir i chi nawr! Ond mae trafferth fel petai’n dod i chwilio amdana i.


Mor belled, dydy heddiw ddim wedi bod yn wahanol i bob diwrnod arall o mywyd. Mae’n fore Llun, diwrnod cynta ’nôl yn yr ysgol wedi gwyliau’r Dolig, a dyma fi yn llyfrgell yr ysgol. Dydw i ddim yma i ddarllen nac i wneud gwaith ymchwil. O na! Dwi yma am fy mod i, yn ôl Miss Melli fy athrawes, yn fachgen haerllug, digywilydd, anfoesgar, ffit, eofn, egr a hyf (llyncodd hi thesawrws i frecwast, mae’n amlwg). Yn wir, petai Miss Melli’n cael ei ffordd, baswn yn cael fy llusgo allan i’r stryd er mwyn i bawb yn y gymuned daflu tomatos pwdr ataf.

Hunangofiant Bachgen Drwg 1
Dwi yn y llyfrgell am mai yma mae’r Cyfnod Callio’n cael ei gynnal bob amser egwyl. Nawr, i chi sy’n anghyfarwydd â’r cysyniad o ‘Gyfnod Callio’, cyfnod ydy e lle mae’r plant drwg i gyd yn cael eu casglu at ei gilydd (hm, synhwyrol iawn), ac yna’n cael eu gorfodi i sefyll mewn tawelwch llwyr tra maen nhw’n meddwl am y pethau drwg maen nhw wedi’u gwneud. Hen syniad twp, yn fy marn i – meddwl am yr hyn hoffen nhw gael i ginio mae pawb mewn gwirionedd . . . hynny yw, pan dydyn nhw ddim yn tynnu stumiau nac yn fflicio bandiau elastig at ei gilydd.


Felly, dyma fi wrthi’n ‘callio’ mewn llyfrgell ysgol (sef rhywle lle mae pobl i fod i ddarllen), ond mewn gwirionedd dwi’n gwneud dim ond osgoi bwledi wedi’u gwneud o fandiau elastig rhag ofn i mi niweidio fy llygaid. Grêt! Oni fase hi’n wers haeddiannol i Miss Melli pe bai un o’r bwledi’n fy nharo yn fy llygaid ac yn fy nallu’n llwyr? Tybed sut siâp fyddai ar fy llawysgrifen wedyn?!


Dwi’n syllu o nghwmpas. Yn gwmni i mi heddiw mae dau dwpsyn mwya’r ysgol, sef Darren Francis a Carys Jones. Mae Darren yma am ei fod wedi dweud wrth Miss Melli (yn hollol ddifrifol, ddiflewyn-ar-dafod), ei fod e’n golygu tyfu mwstás tebyg i’w h’un hi pan fydd e’n hŷn. Dyna i chi dwpdra! Dylsech chi fod wedi gweld Miss M yn ffrwydro wrth glywed hynny! Mae Carys yma am iddi fwyta gwenynen wedi marw er mwyn ennill bet. Does dim gobaith y bydd y naill na’r llall yn callio o fewn degawd, heb sôn am ddeng munud o amser egwyl.


Rydw i, ar y llaw arall, yma am fy mod i wedi dweud y gwir. Ar fy llw! Dim ond am i mi ddweud y gwir! Mae’n bur amlwg i bawb (yn enwedig i mi, wrth i mi sefyll fel taten yn y llyfrgell), nad ydy Miss Melli’n hoffi clywed y gwir.


Beth, felly, oedd y gwirionedd mawr yma a achosodd y fath drwbwl i mi? O’n i efallai wedi dweud wrth Miss Melli ei bod hi mor flewog â gorila? O’n i wedi esbonio taw’r rheswm pam dwi ddim yn gwybod fy nhablau lluosi yw nad ydw i’n gweld beth yw eu pwrpas? Neu o’n i wedi dweud wrth Miss Melli ei bod yn gwbl amlwg ei bod hi wedi bwyta un mins pei yn ormod dros y Nadolig? Wel, nac oeddwn siŵr.

Hunangofiant Bachgen Drwg 2

Bore ’ma, fe gerddais i mewn i’r ystafell ddosbarth, ac yn syth bìn dyma Miss Melli’n arthio ar bawb i roi eu llyfrau gwaith cartref ar ei desg hi. Y dasg oedd cadw dyddiadur dros wyliau’r Nadolig, ac fe wnes i hynny – roedd fy llawysgrifen yn daclus a phopeth! Cadwais gofnod dyddiol o bopeth ddigwyddodd dros yr Ŵyl, ond dyna lle’r oedd y broblem mae’n debyg. Ai fy mai i yw e bod Nadolig yn ein tŷ ni’n debycach i syrcas nag yw e i ysgol Sul?


Ocê, dwi’n fodlon cyfadde efallai nad oedd Miss Melli eisiau clywed bod Wncwl Daf wedi torri gwynt o fore gwyn tan nos; neu bod Mam wedi llosgi’r twrci’n ulw cyn iddi grio dagrau hallt dros y stwffin. Ond dyna’n union ddigwyddodd. Ar ben hynny, aeth Dad i lawr i’r pentref noswyl Nadolig, a chael ei berswadio i brynu gafr gan ryw foi o Bontypridd (ie, gafr o bopeth!). Bu raid inni gadw’r creadur drewllyd yn y tŷ bach lawr llawr nes i’r RSPCA ddod i’w gasglu – roedd yr arogl yno’n ddigon i dynnu’r paent oddi ar y wal!


Yn bersonol, dwi ddim yn deall pam bod Miss Melli wedi ypsetio gymaint. Wedi’r cyfan, nid y hi oedd wedi gorfod byw drwy’r holl brofiadau erchyll. Fi oedd wedi rhedeg rownd gyda’r air freshener am fod Wncwl Daf a’r sbrowts wedi anghytuno. Fi gafodd bryd o dafod gan Mam am awgrymu y dylai hi fod wedi rhoi eli haul ar y twrci, a fi gafodd fy mytio gan yr hen afr flin bob tro ro’n i’n agor drws y tŷ bach. Fetia i nad ydy Miss Melli erioed wedi cael ei bytio gan afr . . . er efallai y basai’n gwneud lles iddi.


Beth ddylwn i fod wedi’i ysgrifennu? Ddylwn i fod wedi dweud bod fy nheulu allan sawl noson yn canu carolau er mwyn codi arian i blant bach newynog?

Hunangofiant Bachgen Drwg 3

Neu ddylwn i fod wedi esgus bod Siôn Corn wedi dod â’r union anrhegion ro’n i eisiau, sef beic mynydd lliw arian a’r ffôn symudol diweddaraf, yn lle’r jig-so amhosib-i’w-wneud gefais i go iawn? Efallai y dylwn i ysgrifennu mai hwn oedd y Nadolig gorau erioed? Ond celwydd fyddai hynna i gyd, a dydyn ni ddim i fod i ddweud celwydd, ydyn ni? Wel, ydyn mae’n debyg, am fod gan Miss Melli alergedd i’r gwir.


Ro’n i’n ei gwylio hi’r bore hwnnw wrth iddi fodio trwy’r llyfrau gwaith cartref. Oedodd dros fy ngwaith i am fwy o amser na’r gweddill. Wrth i’w llygaid lithro dros y dudalen roedd ei hanadlu’n mynd yn fwy bas a’i gwddf yn cochi nes ei fod bron yn biws. Synhwyrais bryd hynny nad oedd pethau mynd i ddiweddu’n dda.


Heb rybudd pellach, ffrwydrodd Miss Melli;

Hunangofiant Bachgen Drwg 4

ac mewn fflach o gochni a sgrechfeydd erchyll, dyma fi’n darganfod fy hun yma yn y llyfrgell, fy nhrwyn yn fflat yn erbyn rhes o lyfrau dieithr. Oeddech chi’n gwybod bod sefyll fel styllen, ac ar yr un pryd yn cyffwrdd llyfr â’ch trwyn, yn eich helpu chi i gallio? Na, do’n inne ddim chwaith! Ro’n i dan yr argraff fod yn rhaid i chi agor llyfrau er mwyn bod ag unrhyw obaith o ddysgu rhywbeth ohonyn nhw.


Ar y silff o mlaen i mae llyfrau di-ri. Mae fy llygaid yn sganio’r teitl ar bob meingefn.


‘Barti Ddu,’ dwi’n darllen yn dawel.


‘Y?’ meddai Darren Francis, cyn fflicio bandyn elastig at fy mhen eto.


Dwi’n darllen gweddill y meingefn yn dawel, dawel y tro hwn. ‘T. Llew Jones.’


Dwi’n tynnu’r gyfrol â’r clawr gwefreiddiol oddi ar y silff ac yn ei hagor yn araf. Dwi’n dechrau darllen y llinell gyntaf, ac yna’r nesaf a’r nesaf.

Hunangofiant Bachgen Drwg 5

Dwi’n cael fy nghyffroi gan y geiriau a’m hudo gan yr olygfa yn fy mhen. Dwi’n ymgolli gymaint nes mod i ddim hyd yn oed yn sylwi ar y bandiau elastig yn fy nharo. Er fy mod, yn gorfforol, yn dal i sefyll yn y llyfrgell, mae fy nychymyg i’n bell – tri chan mlynedd a channoedd o filltiroedd i ffwrdd – a dwi ar fin dechrau antur anhygoel!


Yna, rhywsut, dwi’n synhwyro symudiad chwim ac amlwg yn ffenestr y llyfrgell. Yn anfodlon, dwi’n rhwygo fy sylw i ffwrdd o’r llyfr eiliad yn unig cyn i wyneb Miss Melli ddiflannu o ochr arall y gwydr.


‘Drapia!’ dwi’n sibrwd dan fy anadl. Mae hi wedi fy nal yn darllen!


Erbyn hyn, mae Darren Francis wedi syrthio i gysgu a’i ben yn gorffwys ar silff o atlasau. Mae Carys yn defnyddio pwynt ei chwmpawd i grafu’i henw ar un o’r byrddau.


Dwi’n sleifio’r llyfr i mewn i fy mag ac yn cau’r sip yn dawel, dawel. Mae drws y llyfrgell yn agor a Miss Melli’n chwipio i mewn fel neidr seimllyd. Mae hi’n ciledrych o’i hamgylch.


‘Gei di fynd,’ mae’n dweud gan edrych arna i.


Dwi’n cydio’n ansicr yn fy mag ac yn brasgamu tuag at y drws, gan edrych ar y llawr drwy’r amser.


‘Gei di gadw’r llyfr hefyd,’ mae’n sibrwd wrth i mi frysio heibio.


Dwi’n oedi, ond heb edrych i fyny, oherwydd dwi ddim eisiau’i chynhyrfu hi eto. Yna, dwi’n brysio yn fy mlaen. Dwi’n clywed drws y llyfrgell yn cau, a does neb yn fy nilyn.


Mae’r gloch wedi canu a phawb yn brysio i’w gwersi – pawb heblaw amdana i. Dwi’n rasio i lawr y grisiau ac yn sleifio i mewn i’r gilfach gotiau fel y lleidr ydw i. Yno, dwi’n cuddio o dan y cotiau ac yn tynnu’r llyfr gwych o’r bag. Mae fy nwylo’n crynu a nghalon yn carlamu wrth i mi gamu unwaith eto i fyd drygionus y dihiryn pennaf: Barti Ddu.

Hunangofiant Bachgen Drwg 5

**********

If you can see a screen below, click on it to view the story being read by Iwan John. Otherwise visit YouTube.

Welsh-language story for 9 to 11 year olds
'Hunangofiant Bachgen Drwg' by Nicholas Daniels
Illustrations by Noel Ford
Naughty pupils are sent to the school library in order to improve their ways. The mischief that they have done varies but only one of them will benefit from the 'Better Behaviour' session. Who will it be? What did he do wrong, and what did he discover in the library?