Grantiau i Gyhoeddwyr (deunydd Saesneg)

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gweinyddu grantiau ar gyfer cyhoeddi ystod eang o lyfrau a chylchgronau Saesneg eu hiaith ar gyfer oedolion a phlant. Yn bennaf, rydym yn cefnogi cyhoeddiadau sydd â ffocws diwylliannol Cymreig gan gynnwys deunydd hamdden a theitlau llenyddol. Nid ydym yn ariannu gwerslyfrau a deunydd addysgol cyffelyb.

 

Mae grantiau hefyd ar gael i gyhoeddwyr tuag at gomisiynu awduron, cyflogi golygyddion creadigol a swyddogion marchnata a thuag at rai cynlluniau marchnata llyfrau. Mae manylion pellach i’w cael isod.