Mae’r manylion am BookSlam 2021/22 i’w gweld yma.
BookSlam, cystadleuaeth llyfrau Saesneg i blant cynradd.
Ymunwch gyda ni i ddathlu darllen, gan annog plant ledled Cymru i wirioni ar ddarllen a thrafod llyfrau Saesneg o Gymru.
Trwy gyfrwng y cystadleuaethau hwyliog yma rydym yn annog plant i gymryd diddordeb ym myd llyfrau a chryfhau eu sgiliau llythrennedd, dehongli, trafod a chyflwyno.
Mae’r gystadleuaeth yn creu cyffro am fyd llyfrau, ac wrth gymryd rhan mae’r disgyblion yn meithrin agweddau cadarnhaol a hirdymor tuag at ddarllen. Gall ddarllen er pleser gefnogi datblygiad empathi a chyfrannu at ddatblygiad iechyd a lles.
Dyma gystadleuaeth sydd yn
- agored i ddisgyblion blynyddoedd 3 i 6 cynnig detholiad eang o lyfrau ar y rhestr ddarllen i ennyn diddordeb trawstoriad o ddisgyblion
- cynnig hyblygrwydd i athrawon weithredu ar lefel dosbarth cyfan neu grwpiau MAT
- cyfrannu at ofynion y Siarter Iaith
- cydfynd â gofynion Cwricwlwm i Gymru
- cynnig profiadau gwerthfawr y tu allan i’r ysgol
Yn ogystal â bod yn hwyl, mae elfen gystadleuol y rhaglen yn:
- ysgogi plant o bob gallu i ddarllen a thrafod llyfrau
- rhoi cyfle i’r plant a’u hysgolion i ennill gwobrau hael.
Manylion y Gystadleuaeth
- Mae’r gystadleuaeth yn dechrau ar lefel sirol.
- Bydd pob sir yng Nghymru yn dethol un ysgol i gynrychioli’r sir yn y Rownd Genedlaethol.
- Pob tîm i ddewis UN llyfr o’r rhestr lyfrau i’w drafod ac UN llyfr gwahanol i’w gyflwyno ar ffurf fideo hysbyseb hyrwyddo.
- Cysylltwch â’ch trefnydd sirol neu cllc.plant@llyfrau.cymru i gadarnhau’r trefniadau rhanbarthol.
Trafod:
- Prif nod yr her yw dangos bod y criw yn gallu trafod y llyfr, y cymeriadau a’r digwyddiadau ynghyd â’r profiad darllen.
- Ni fydd disgwyl i’r criw trafod fod wedi paratoi trafodaeth o flaen llaw.
- Mae disgwyl i bob aelod ymateb i gwestiynau penagored a sylwadau’r beirniad yn ogystal ag ymateb i sylwadau ei gilydd.
- Caniateir uchafswm o 4 aelod ym mhob tîm trafod.
- Bydd y sesiwn feirniadu yn para tua 8 munud.
HYSBYSEB HYRWYDDO:
- Prif nod y perfformiad yw creu fideo i hyrwyddo’r llyfr er mwyn apelio at gynulleidfa o blant o’r un oedran er mwyn eu hannog i’w brynu a’i ddarllen
- Pob tîm i ddewis UN llyfr gwahanol i’r un a ddewiswyd i’w drafod.
- Hyd at 8 aelod ym mhob tîm.
- Nid oes raid i’r aelodau sy’n cyflwyno’r llyfr fod yr un rhai â’r disgyblion fydd yn cymryd rhan yn y drafodaeth.
- Uchafswm o 6 munud o berfformiad hyrwyddo.
- Caniateir props a gwisgoedd.
- Gallwch ffilmio perfformiad llwyfan NEU gallwch ffilmio mewn lleoliadau gwahanol – byddwch mor greadigol ag y mynnwch!
- Caniateir y defnydd o feddalwedd golygu fideo syml gan y disgyblion.
- Tynnir un marc am bob hanner munud dros y 6 munud a ganiateir.
- Rhoddir 50% o’r marciau am y trafod a 50% am y perfformiad.
CANLLAWIAU TRAFOD – AM BETH FYDD Y BERINIAD YN CHWILIO
Gwybodaeth:
- Y gallu i fynd dan groen y llyfrau, y stori a’r cymeriadau, lle mae hynny’n briodol.
- Dealltwriaeth dda o neges a themâu’r llyfr.
- Cyfeirio at ddarllen ehangach y tu allan i ffiniau’r gystadleuaeth, lle mae hynny’n briodol.
Mynegi barn:
- Mynegi barn yn glir gan roi rhesymau gonest a theg.
- Y gallu i holi, cytuno, ateb, anghytuno a herio lle mae hynny’n briodol.
- Gwrando ac adeiladu ar sylwadau ei gilydd.
- Cynnig sylwadau sy’n berthnasol i sylwadau eraill.
Trafod fel grŵp:
- Y gallu i drafod yn annibynnol fel grŵp.
- Cyfraniad cyfartal a chytbwys gan bob aelod o’r grŵp.
- Trafod byrlymus.
- Gallu ymateb i gwestiynau sy’n codi o’r drafodaeth.
CANLLAWIAU HYRWYDDO
Am beth fydd y beirniad yn chwilio?
- Cyflwyniad sy’n cyfleu naws y llyfr ac yn annog y gynulleidfa darged i fynd ati i ddarllen y llyfr.
- Perfformiad bywiog gydag effeithiau dramatig amrywiol.
- Symudiadau a defnydd effeithiol o’r gofod berfformio.
- Y gallu i daflu lleisiau ac i gyfleu neges yn glir – lleisiau uchel, clir a hyderus.
- Y gallu i weithio fel tîm – cyfle i bob unigolyn gyfrannu at y cyflwyniad.
- Defnydd effeithiol o wisgoedd a phropiau.