Ein Newyddion

Warning: Undefined array key "text" in /var/web/site/public_html/wp-content/plugins/TwitterAPICyngorLlyfrau/ategyn-twitter.php on line 84
Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024 Dewch i fwynhau'r arlwy isod yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd rhwng 3–10 Awst 2024. DYDD SADWRN, 3 AWST11:00 | Stondin Cant a MilIrram IrshadCymraeg, Asiaidd a Balch 11:30 | Stondin RilyCyflwynwyr StwnshGemau rhyfeddol gyda chyflwynwyr Stwnsh 12:00 | Storyville, PontypriddFound in Translation: Art or Alcemi?Digwyddiad wedi ei drefnu fel rhan o Cwr Stryd Felin Frinj – Storyville Books. Digwyddiad...

Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Rhodd arbennig i gefnogi ac ysbrydoli awduron ifanc

Eleni, mae naw awdur ifanc wedi gallu cymryd cam yn nes at wireddu eu huchelgais i ddod yn awduron cyhoeddedig, diolch i gymynrodd hael gan Marie Evans, oedd yn dymuno cefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu. Diolch i deulu Marie, roedd Cyngor Llyfrau Cymru yn gallu trefnu encil ysgrifennu, er mwyn rhoi cyfle i awduron ifanc dreulio deuddydd yng nghwmni’r awdur Sioned Erin. Roeddent yn gallu cymryd amser i drafod ysgrifennu, rhannu syniadau a chymryd rhan mewn trafodaethau unigol...

Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Darllenwyr ifanc yn paratoi ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf

Mae darllenwyr ifanc o Ysgol Twm o’r Nant yn Ninbych wedi bod yn paratoi i fynd i’r afael â Sialens Ddarllen yr Haf eleni gyda’r awdur Leisa Mererid, mewn lansiad yn Llyfrgell Dinbych heddiw, dydd Mercher 10 Gorffennaf 2024. Mae’r plant wedi ymuno â’r Sialens, a grëwyd gan yr elusen genedlaethol The Reading Agency, sydd â’r nod o’u cadw yn darllen dros wyliau’r haf, gyda digwyddiadau, gweithgareddau a llyfrau gwych – i gyd ar gael am ddim o’u llyfrgelloedd lleol. Mae Sialens Ddarllen yr Haf...

Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Dros 40 o brosiectau yn derbyn arian Cynulleidfaoedd Newydd

Cyngor Llyfrau Cymru yn cyhoeddi dros 40 o brosiectau sy’n rhannu cronfa o £500,000 yn nhrydedd flwyddyn y Grant Cynulleidfaoedd NewyddMae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi’r 44 prosiect ledled Cymru sydd wedi derbyn arian trwy’r Grant Cynulleidfaoedd Newydd yn 2024.Derbyniwyd ceisiadau am brosiectau gwerth bron £1 filiwn ar gyfer cronfa o £500,000. Arian gan Lywodraeth Cymru, trwy Cymru Greadigol oedd hwn, gyda’r nod o gefnogi a datblygu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.Gwahoddwyd ceisiadau...

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2024

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2024

Cyhoeddwyd enillwyr categorïau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2024 yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn ym Meifod, mewn seremoni arbennig amser cinio heddiw, ddydd Mercher 29 Mai. Enillydd y categori cynradd ydy Jac a’r Angel gan Daf James, ac enillydd y categori uwchradd ydy Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter – dwy nofel sydd yn dathlu pŵer y dychymyg i’n helpu i ymdopi ag amseroedd a phrofiadau anodd. Enillydd y categori Cynradd:Jac a’r Angel gan Daf James, darluniwyd gan Bethan Mai (Y...

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2024

Cyhoeddi Enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2024

Where the River Takes Us gan Lesley Parr (cyhoeddwyd gan Bloomsbury Publishing) yw enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2024 am lenyddiaeth i blant a phobl ifanc. Yr awdur Lesley Parr yw enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2024 gyda’r gyfrol Where the River Takes Us – stori antur gyffrous wedi ei lleoli mewn cwm yng Nghymru yn y 1970au ac wedi’i chyhoeddi gan Bloomsbury. Cyhoeddwyd enw’r enillydd mewn seremoni amser cinio, dydd Gwener 17 Mai yng Nghynhadledd CILIP Cymru Wales yng Nghaerdydd, gan...

Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Cyhoeddi cronfa o £500,000 ar gyfer Grant Cynulleidfaoedd Newydd 3

Cyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd ceisiadau ar gyfer Grant Cynulleidfaoedd Newydd 3 wrth gyhoeddi cronfa newydd o £500,000 Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd ceisiadau ar gyfer trydedd rownd y Grant Cynulleidfaoedd Newydd, diolch i £500,000 gan Lywodraeth Cymru, trwy Cymru Greadigol. Pwrpas y grant yw cynnal a datblygu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Mae grantiau ar gael i gyhoeddwyr, elusennau neu sefydliadau yng Nghymru ar gyfer: Creu cynlluniau...

Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Datgelu Rhestr Fer Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2024

Datgelodd Cyngor Llyfrau Cymru a’r cyflwynydd, y dylanwadwr a’r llyfrbryf Ellis Lloyd Jones y teitlau sydd wedi cyrraedd rhestr fer llyfrau Saesneg Gwobrau Tir na n-Og ddydd Gwener, 15 Mawrth am 12pm ar eu cyfrifon Instagram a TikTok. Mae’r gwobrau yn dathlu’r gorau o straeon o Gymru a straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2023. Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru. Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u cefnogi gan...

Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Cyhoeddi Rhestr Fer Gymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2024

Datgelodd Cyngor Llyfrau Cymru y llyfrau Cymraeg sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og ar raglen Heno ar S4C nos Fercher, 13 Mawrth. Mae’r gwobrau yn dathlu’r gorau o straeon o Gymru a straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2023. Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru. Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u cefnogi gan CILIP Cymru. Maent yn anrhydeddu ac yn dathlu’r awduron a’r darlunwyr mwyaf creadigol,...

Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Prosiectau sydd wedi derbyn arian Grant Cynulleidfaoedd Newydd 2

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi manylion y prosiectau a ariennir yn ail flwyddyn y Grant Cynulleidfaoedd Newydd, gyda phrosiectau ar hyd a lled Cymru yn rhannu cronfa o £400,000 yn ystod 2023/24.Ariennir Grant Cynulleidfaoedd Newydd gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol. Pwrpas y grant yw cryfhau ac amrywio’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Roedd grantiau o hyd at £40,000 ar gael i sefydliadau a mentrau newydd yng Nghymru ar gyfer:datblygu awduron, darlunwyr neu gyfranwyr newydd o...

Dathlu Diwrnod y Llyfr yng Nghymru 2024

Dathlu Diwrnod y Llyfr yng Nghymru 2024

Dathlu Diwrnod y Llyfr yng Nghymru 2024 Mae elusen Diwrnod y Llyfr yn cynnal ei dathliad blynyddol ar ddydd Iau 7 Mawrth, ac yn annog plant ledled y wlad i fwynhau darllen, gan dderbyn tocyn llyfr £1 i’w gyfnewid am un o’r llyfrau £1 a gyhoeddwyd yn arbennig ar gyfer y cynllun AM DDIM, neu i’w roi tuag at lyfr arall o’u dewis. Y llyfr Cymraeg eleni, a gefnogir gan y Cyngor Llyfrau ac a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Rily, yw Ffeithiau Ffiaidd: Y Corff. Wedi’i ysgrifennu a’i ddylunio gan Kev...

Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Cyfle tendro ar gyfer cylchgrawn newydd sbon yng Nghymru

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd ceisiadau am gytundeb pedair blynedd (2024–28) ar gyfer cylchgrawn llenyddol Saesneg newydd sbon, wrth iddo agor y broses dendro heddiw, 4 Mawrth 2024. Mae £80,000 y flwyddyn ar gael i ddatblygu a sefydlu un cylchgrawn newydd. Cylch gorchwyl y cylchgrawn fydd cylchgrawn llenyddol Saesneg ei iaith gyda ffocws cryf ar ffuglen a rhyddiaith ffeithiol greadigol, yn cynnwys adolygiadau a sylwebaeth gadarn, ac sydd â model busnes cynaliadwy a hyblyg yn greiddiol...

Prosiect Caru Darllen Ysgolion yn rhoi hwb i ddarllenwyr ifanc

Prosiect Caru Darllen Ysgolion yn rhoi hwb i ddarllenwyr ifanc

Prosiect Caru Darllen Ysgolion yn rhoi hwb i ddarllenwyr ifanc Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddwyd buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i hybu diddordeb mewn darllen... a dyna gychwyn ar y prosiect rhoi llyfrau mwyaf uchelgeisiol i ni ei reoli erioed! Nod rhaglen Caru Darllen Ysgolion oedd rhoi llyfr i’w gadw i bob plentyn yn ysgolion gwladol Cymru, yn ogystal â darparu llyfrau ychwanegol ar gyfer llyfrgell pob ysgol. Ddwy flynedd yn...

Cyfarchion y Nadolig 2023

Cyfarchion y Nadolig 2023

Cyfarchion y Nadolig 2023 Bydd y Cyngor Llyfrau a'r Ganolfan Ddosbarthu yn cau ar brynhawn Iau, 21 Rhagfyr 2023 ac yn ail agor wedi’r gwyliau ar ddydd Mawrth, 2 Ionawr 2024. Dymunwn Nadolig llawen a dedwydd i chi i gyd.

Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Cyhoeddi derbynwyr grantiau Cyfnodolion Diwylliannol Saesneg, 2024–28

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi heddiw (7 Rhagfyr) enwau’r rhai fu’n llwyddiannus i ennill grantiau ar gyfer Cyfnodolion Diwylliannol Saesneg, 2024–28. Mae’r grant, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, yn cael ei ddyfarnu fel cyllid newydd, sy’n sefyll ar ei draed ei hun bob pedair blynedd yn dilyn proses dendro gystadleuol agored. Hysbysebwyd y tendr ym mis Mai, a chynhaliwyd cyfweliadau ym mis Tachwedd 2023. Dyfernir y grantiau gan banel annibynnol yn dilyn...

Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Prosiect Rhyngom i gyhoeddi 50 o lyfrau i gefnogi sgiliau empathi a llythrennedd

50 o lyfrau i gael eu cyhoeddi yng Nghymru ar gyfer plant a phobl ifanc, i gefnogi eu sgiliau empathi a llythrennedd, ac i hyrwyddo darllen er pleser Nod Project Rhyngom Cyngor Llyfrau Cymru, project sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yw hybu amrywiaeth mewn llyfrau darllen er pleser i blant a phobl ifanc rhwng 3 ac 16 oed. Bydd y project dwy flynedd hwn yn arwain at gyhoeddi 50 o lyfrau darllen er pleser fydd yn dathlu diwylliant, pobl a hanes Cymru gyfan, gan gefnogi iechyd a lles...

Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Dros hanner miliwn o lyfrau a thocynnau llyfrau am ddim yn cael eu dosbarthu i blant yng Nghymru

Wrth i’r flwyddyn ysgol ddod i ben, mae Cyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru yn nodi carreg filltir allweddol i broject sy’n rhoi llyfr yn anrheg fel rhan o gynllun Caru Darllen Ysgolion, i ddarparu llyfr eu hunain i bob plentyn mewn ysgol wladol yng Nghymru. Mae bron i 300,000 o lyfrau rhad ac am ddim a 170,000 o docynnau llyfrau wedi'u rhoi i ddysgwyr wrth i’r cam o’r project sy’n darparu rhoddion unigol mewn ysgolion ddod i ben. Y llynedd rhoddwyd tua 53,000 o lyfrau i fanciau bwyd a...

Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Llais Pobl Ifanc yn tanio a sbarduno darllen er pleser yng Nghymru

Ddydd Gwener 7 Gorffennaf, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Panel Pobl Ifanc Cyngor Llyfrau Cymru. Bwriad y cynllun hwn yw sicrhau cyfleoedd i bobl ifanc i fynegi barn ar ddeunydd darllen a themâu cyfredol, ynghyd â’u dyheadau am gyhoeddiadau yn y dyfodol. Yn ategol at hyn, fe fydd y panel yn ystyried ymgyrchoedd amrywiol i hyrwyddo darllen er pleser ymysg pobl ifanc. Penodwyd yr aelodau i’r panel yn dilyn galwad agored yn ystod mis Chwefror eleni am unigolion rhwng 17 ac 20 oed. Yn sgil hynny,...

Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Grant Cylchgronau 2023

Dau gylchgrawn newydd Cymraeg i ddod yn 2023 Bydd dau gylchgrawn newydd ar gael yn y Gymraeg eleni, ar ôl i Wasg Carreg Gwalch a Golwg ennill grantiau gan y Cyngor Llyfrau i beilota dau deitl newydd. Bydd Gwasg Carreg Gwalch yn lansio cylchgrawn hanes poblogaidd, Hanes Byw, ym mis Medi a bydd Golwg yn lansio cylchgrawn digidol ar chwaraeon erbyn yr hydref. Cafodd y ddau deitl eu sefydlu trwy gyllideb gan y Cyngor Llyfrau, sy’n cefnogi cylchgronau Cymru yn y Gymraeg ac yn Saesneg ar bynciau o...

Llongyfarchiadau i Manon Steffan Ros wrth i The Blue Book of Nebo ennill Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu

Llongyfarchiadau i Manon Steffan Ros wrth i The Blue Book of Nebo ennill Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn estyn llongyfarchiadau gwresog i Manon Steffan Ros wrth iddi gael ei chyhoeddi’n enillydd gwobr Yoto Carnegie am Ysgrifennu am ei nofel The Blue Book of Nebo. Am y tro cyntaf ers i’r gwobrau gael eu cyflwyno bron i 90 o flynyddoedd yn ôl, llyfr wedi’i gyfieithu sy’n ennill. Gwobrau Yoto Carnegie yw’r hynaf a’r mwyaf poblogaidd o blith gwobrau am lyfrau i blant a phobl ifanc yn y DU. Continue Reading Llongyfarchiadau i Manon Steffan Ros wrth i The Blue Book of Nebo ennill Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu

Manon Steffan Ros yn Ennill Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu

Manon Steffan Ros yn Ennill Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu

AM Y TRO CYNTAF, LLYFR WEDI’I GYFIEITHU YN ENNILL MEDAL YOTO CARNEGIE AM YSGRIFENNU;NOFEL GRAFFIG YN ENNILL Y FEDAL AM DDARLUNIO AM YR AIL FLWYDDYN YN OLYNOL LLYFRAU AROBRYN SY’N CYNNIG CYFLE I DDARLLENWYR IFANC YMGOLLI YN Y PROFIAD O DDARLLEN, A’U HANNOG I EDRYCH I’R DYFODOL yotocarnegies.co.uk | #YotoCarnegies23 | @CarnegieMedals Dydd Mercher 21 Mehefin 2023: Heddiw, mewn seremoni wedi’i ffrydio’n fyw o’r Barbican, cyhoeddwyd enillwyr gwobrau Yoto Carnegie – y gwobrau hynaf a mwyaf...

Lansio Y Gragen yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Gaerfyrddin

Lansio Y Gragen yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Gaerfyrddin

LANSIO Y GRAGEN YN EISTEDDFOD YR URDD, SIR GAERFYRDDIN Lansiwyd Y Gragen, llyfr stori-a-llun gwreiddiol gan Casia Wiliam, yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Gaerfyrddin. Darluniwyd y gyfrol gan Naomi Bennet, enillydd cystadleuaeth arbennig a drefnwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru i ddarganfod talent newydd ym maes darlunio llyfrau plant. Dyfarnwyd y wobr i Naomi Bennet nôl yn 2022. Y dasg i ymgeiswyr rhwng 18 a 25 oed oedd creu gwaith celf gwreiddiol i gyd-fynd â’r gyfrol Y Gragen,...

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2024

Cyhoeddi Enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2023

The Drowned Woods gan Emily Lloyd-Jones (cyhoeddwyd gan Hodder & Stoughton) yw enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2023 am lenyddiaeth i blant a phobl ifanc. Cyhoeddwyd enw’r enillydd ar raglen Radio Wales, The Review Show, am 18:30 ddydd Gwener 2 Mehefin 2023.Mae Gwobrau blynyddol Tir na n-Og, a sefydlwyd yn 1976, yn dathlu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Trefnir hwy gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda nawdd gan CILIP Cymru Wales, Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr...

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2023

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2023

Llyfrau llawn hwyl a sbri, ynghyd â negeseuon cryf, yn cipio Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2023 Cyhoeddwyd enillwyr categorïau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og mewn seremoni arbennig yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin heddiw, dydd Iau 1 Mehefin 2023. Mae’r llyfrau buddugol – Dwi Eisiau bod yn Ddeinosor gan Luned Aaron a Huw Aaron a Manawydan Jones: Y Pair Dadeni gan Alun Davies – yn dathlu pa mor unigryw yw bob plentyn, a’r pwysigrwydd o dderbyn yr hyn sy’n eich gwneud chi’n rhyfeddol. Ar ben hyn...

Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

£400,000 i greu cyfleoedd newydd a datblygu cynulleidfaoedd yn y sector cyhoeddi yng Nghymru

£400,000 i greu cyfleoedd newydd a datblygu cynulleidfaoedd newydd yn y sector cyhoeddi yng Nghymru. Heddiw, mae Cyngor Llyfrau Cymru, ynghyd â Chymru Greadigol, wedi cyhoeddi manylion cronfa £400,000 i gynnig y Grant Cynulleidfaoedd Newydd am yr ail flwyddyn; i gryfhau ac amrywio’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Bydd grantiau hyd at £40,000 ar gael i sefydliadau neu fentrau newydd yng Nghymru ar gyfer: datblygu awduron, darlunwyr neu gyfranwyr newydd o...

Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Arian ychwanegol i ehangu’r gwasanaeth newyddion digidol Cymraeg

golwg360 yn derbyn £330,000 yn ychwanegol i ehangu ei wasanaeth newyddion digidol Cymraeg Mae gwefan newyddion golwg360 wedi sicrhau £330,000 o arian ychwanegol i ehangu ei darpariaeth o gynnwys newyddion digidol. Mae’r grant, a weinyddir gan Gyngor Llyfrau Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, ar gael i sicrhau bod amrywiaeth o wasanaethau newyddion digidol ar gael yn y Gymraeg. Roedd £100,000 y flwyddyn am dair blynedd yn dal ar gael o fewn amodau’r grant, yn ogystal â £30,000 oedd yn weddill o...

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2024

Datgelu’r Rhestr Fer Saesneg ar gyfer Gwobr Tir na n-Og 2023

Tir na n-Og 2023 Datgelu’r Rhestr Fer Saesneg ar gyfer gwobr llyfrau plant hynaf Cymru Ffantasi, bydoedd eraill, realiti amgen, mythau a chwedlau… Bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cyhoeddi’r teitlau sydd wedi cyrraedd rhestr fer llyfrau Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2023 ar y Radio Wales Arts Show am 18:30 nos Wener, 24 Mawrth. Dathlu pwysigrwydd straeon chwedlonol sy’n nodweddu’r pedwar llyfr sydd ar restr fer y wobr Saesneg eleni. Gwobrau Tir na n-Og ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yw’r...

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2024

Cyhoeddi Rhestr Fer Gymraeg ar gyfer Gwobrau Tir na n-Og 2023

Cyhoeddi’r Rhestr Fer Gymraeg ar gyfer gwobr llyfrau plant hynaf Cymru – Gwobrau Tir na n-Og 2023 Datgelodd Cyngor Llyfrau Cymru pa lyfrau Cymraeg sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og ar raglen Heno ar S4C nos Iau, 23 Mawrth. Mae’r gwobrau yn dathlu’r straeon gorau o Gymru a’r straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2022. Mae’r rhestr fer eleni yn dathlu’r ystod helaeth o fformatau sydd wedi’u cyhoeddi dros y flwyddyn ddiwethaf i ysbrydoli darllenwyr ifanc. O’r llyfrau stori-a-llun,...

Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf