Eisiau cyflwyno llyfrau newydd i ddarllenwyr ifanc?
Eisiau llyfrau am ddim a phecyn adnoddau?
Eisiau trafod y llyfrau a straeon yna?
Cynllun cysgodi Tir na n-Og yw’r peth i chi!
Bwriad y cynllun cysgodi yw codi ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc am deitlau’r rhestr fer wrth gynnig cyfle i fwynhau darllen a thrafod y llyfrau â’u cyfoedion.
Ac eleni, rydym yn falch o fedru cyflwyno elfen newydd i’r cynllun, sef Barn y Darllenwyr: tlws arbennig sy’n cael ei ddewis gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y cynllun cysgodi.
Gall ysgolion, llyfrgelloedd a grwpiau darllen eraill gofrestru i gymryd rhan yn y cynllun a bod yn feirniaid answyddogol i ddewis enillydd o blith y rhestr fer, gan ddefnyddio’r pecyn cysgodi arbennig. Mae’r pecyn cysgodi’n cynnwys crynodeb o’r llyfrau, sylwadau gan y beirniaid swyddogol, gwybodaeth am yr awduron, gemau a chardiau pleidleisio.
Ar ôl cofrestru i gymryd rhan yn y cynllun cysgodi, byddwn yn anfon un copi o lyfrau’r rhestr fer rydych yn ei chysgodi yn y post a chopi electronig o’r pecyn cysgodi atoch.
Bydd angen i’r ysgolion bleidleisio am eu hoff lyfrau erbyn 24 Mai 2023.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod Eisteddfod yr Urdd ar 1 Mehefin.
Mae 30 pecyn o lyfrau ar gael felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cofrestru mewn da bryd i osgoi cael eich siomi!
Mae modd cofrestru ar gyfer y Cynllun Cysgodi YMA.
Pecynnau cysgodi Tir na n-Og 2022 ar gael i’w lawrlwytho yma